Cartref Preswyl i’r Henoed – Pentraeth
Cartref preswyl cofrestredig ar gyfer yr henoed yw Plas Garnedd Pentraeth yng nghanol pentref Pentraeth ar Ynys Mon. Mae o fewn pellter cerdded i bob cyfleuster lleol a dim ond pymtheg munud mewn car o Ysbyty Gwynedd a’r tir mawr.
Cofrestrwyd Plas Garnedd gyda AGC ym 2012 ac mae’n cynnig llety cysurus ar gyfer 23 o breswylwyr. Mae’n cynnwys 22 o ystafelloedd, 21 ohonynt yn sengl ac un ystafell ddwbl. Ceir cyfleusterau toiled ac ymolchi en suite ym mhob ystafell ac mae pob un wedi’i haddurno a’i chynllunio’n unigol i safon uchel i greu awyrgylch gartrefol. Gall preswylwyr ddodrefnu eu hystafelloedd eu hunain pe baent yn dymuno gwneud hynny.
Cynlluniwyd yr adeilad a rampiau a choridorau llydain ac mae’n cynnwys tair lolfa fawr, ystafell fwyta ar wahan a gardd synhwyraidd sy’n sicrhau llonydd i’r preswylwyr, eu teuluoedd a’u hymwelwyr.
Darperir prydau bwyd yn ffres yn y cartref a, ble’n bosibl, drwy ddefnyddio cynnyrch lleol ffres a bwydydd o safon. Mae dewis eang o fwydlenni i blesio pob chwaeth. Gellir darparu ar gyfer dietau arbennig fel bo’r angen.
Anogir cyswllt gweithredol a’r gymuned leol yn cynnwys ymweliadau aml gan blant o’r ysgol gynradd leol. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys adloniant o’r tu allan yn ogystal ag gweithgareddau arbenigol hybu’r corff a’r meddwl.
Ein nod, trwy ddull cyfannol, yw addasu gofal i gwrdd ag anghenion pob preswylydd yn unigol. Gwneir hyn trwy ddarparu amgylchedd diogel, sicr a dymunol ar gyfer preswylwyr ble gellir byw bywyd i’r eithaf, ble gellir cynnal preifatrwydd, urddas, ac annibyniaeth.