Swyddi Gwag
Gwnewch rywbeth gwerth chweil – byddwch yn Ofalwr neu’n Weithiwr Cefnogi gyda Plas Garnedd.
Mae’n cymryd person arbennig i fod yn ofalwr neu’n weithiwr cefnogi gyda Plas Garnedd – rhywun ymroddedig, cydymdeimladol, medrus a gofalgar. Tra’n gweithio fel aelod o’n tîm, mae’r potensial gennych i newid bywydau er gwell. Rydym yn fusnes teuluol sefydlog gyda thros 30 mlynedd o brofiad mewn datblygu a chefnogi ein staff gofal. Ein gofalwyr a’n gweithwyr cefnogi yw curiad ein calon ac rydym yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd.
Mae’r swyddi sydd ar gael gyda Plas Garnedd yn cynnwys:
- Gofal Preswyl i’r Henoed – Gofalwr Dydd, Gyda’r Nos, Nos neu Wrth Gefn
- Gofalwr Cartref Henoed – Gofalwr Llawn amser, Rhan-amser ac Wrth Gefn allan yn y gymuned
- Gweithiwr Cefnogi – Cefnogi Oedolion gydag Anableddau Dysgu neu gorfforol i fyw bywyd cyflawn
- Gofal Cymhleth – Darparu gofal arbenigol i oedolion gydag anghenion cymhleth yn eu cartrefi eu hunain
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’r swyddi uchod, lawrlwythwch ein ffurflen gais (ar gael hefyd fel dogfen Word) neu ffoniwch 01248 717339.