Cefnogaeth i Oedolion gydag Anableddau Dysgu neu Gorfforol

Mae Gofal Plas Garnedd yn darparu gofal a chefnogaeth i oedolion sydd ag ystod o wahanol Anableddau Corfforol ac Anableddau Dysgu. Rydym ar y rhestr o ddarparwyr cymeradwyedig ar gyfer Cynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd.

Mae ein tîm hynod brofiadol yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau lleol i fwyhau annibyniaeth ein defnyddwyr gwasanaeth, gan hyrwyddo cynhwysiad mewn cymunedau lleol. Rydym hefyd yn annog a chefnogi pobl i brofi amrywiaeth eang o weithgareddau, trwy eu cefnogi i ddatblygu perthnasau a chysylltiadau cymdeithasol.

Cynllunio Person-Ganolog

Er mwyn cyflawni’r canlyniadau hyn, rydym yn gweithio gyda phob unigolyn i ddatblygu Cynllun Person-Ganolog. Rydym yn gweithio gyda chylch ehangach y person, eu teuluoedd,  ffrindiau, eiriolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau fod y cynllun yn adlewyrchiad cywir o’u hanghenion a’u hoffterau. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn cynnwys manylion pob maes o gefnogaeth sy’n ofynnol i gwrdd ag anghenion, dymuniadau a dyheadau unigol pob un.

Am fwy o wybodaeth, dewiswch yr opsiwn “Cysylltu â ni” ar y chwith a naill ai ffoniwch neu ebostiwch ni gyda’ch ymholiadau.

Gofal Cymhleth

Llun manwl o gadair olwyn

Fel darparwr arbenigol gwasanaethau gofal cymhleth, rydym yn deall fod byw gyda chyflwr hirdymor a dioddef o ddiffyg annibyniaeth yn medru bod yn anodd dros ben.

Wrth i’ch cyflwr ddatblygu, efallai eich bod yn ofni mai eich unig opsiwn fydd symud i gartref nyrsio neu breswyl.

Gall Plas Garnedd gyflenwi amrywiaeth eang o Gynorthwywyr Gofal Iechyd a Gweithwyr Cefnogi gyda sgiliau penodol, wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer eich gofynion gofal cymhleth, er mwyn eich cefnogi i ddal i fyw yn eich cartref eich hun. Rydym yn cydweithio â’r tîm cymunedol Aml-Ddisgyblaethol i sicrhau y gallwch barhau i fod mor annibynnol â phosibl.

Mae gennym gofnod cyson o lwyddiant mewn darparu gofal pwrpasol o ansawdd uchel i unigolion gyda amrywiaeth o anghenion gan gynnwys:

  • Gofal Lliniarol
  • Adsefydlu Anaf i’r Pen a’r Cefn
  • Parlys yr Ymennydd
  • Llid yr Ymennydd
  • Strôc
  • Cefnogaeth i bobl sydd ag Anableddau Dysgu

Byddwn yn datblygu cynllun gofal manwl, person-ganolog ar eich cyfer a fydd yn dynodi eich gofynion i gyd, gan ein galluogi i weithredu gwasanaeth gofal hynod effeithiol. Byddwn yn adolygu’r ddogfen hon gyda chi yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn addasu ein gwasanaeth gofal yn gyson i gwrdd â’ch anghenion a’ch dewisiadau newidiol.