Cartref Preswyl Cofrestredig ar gyfer yr Henoed

Cartref preswyl cofrestredig ar gyfer yr henoed yw Plas Garnedd yng nghanol pentref Llanfairpwll ar Ynys Mon. Lleolir y cartref mewn erw o erddi hyfryd gydag golygfeydd bendigedig dros Afon Menai tua mynyddoedd Eryri. Mae o fewn pellter cerdded i bob cyfleuster lleol a dim ond pum munud mewn car o Ysbyty Gwynedd a’r tir mawr.

Ystafell fyw ym Mhlas GarneddCofrestrwyd Plas Garnedd gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd ac Ynys Mon ym 1982 ac mae’n cynnig llety cysurus ar gyfer 29 o breswylwyr. Mae’n cynnwys 28 o ystafelloedd, 27 ohonynt yn sengl ac un ystafell ddwbl. Ceir cyfleusterau toiled ac ymolchi en suite ym mhob ystafell ac mae pob un wedi’i haddurno a’i chynllunio’n unigol i safon uchel i greu awyrgylch gartrefol. Gall preswylwyr ddodrefnu eu hystafelloedd eu hunain pe baent yn dymuno gwneud hynny.

Cynlluniwyd yr adeilad a rampiau a choridorau llydain ac mae’n cynnwys tair lolfa fawr, ystafell fwyta ar wahan a lolfa haul sy’n sicrhau llonydd i’r preswylwyr, eu teuluoedd a’u hymwelwyr.

Darperir prydau bwyd yn ffres yn y cartref a, ble’n bosibl, drwy ddefnyddio cynnyrch lleol ffres a bwydydd o safon. Mae dewis eang o fwydlenni i blesio pob chwaeth. Gellir darparu ar gyfer dietau arbennig fel bo’r angen.

Gweithgareddau ym Mhlas GarneddAnogir cyswllt gweithredol a’r gymuned leol yn cynnwys ymweliadau aml gan blant o’r ysgol gynradd leol. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys adloniant o’r tu allan yn ogystal ag ymweliadau a lleoliadau a digwyddiadau yn yr ardal.

Ein nod, trwy ddull cyfannol, yw addasu gofal i gwrdd ag anghenion pob preswylydd yn unigol. Gwneir hyn trwy ddarparu amgylchedd diogel, sicr a dymunol ar gyfer preswylwyr ble gellir byw bywyd i’r eithaf, ble gellir cynnal preifatrwydd, urddas, ac annibyniaeth.