Gofal Cartref i’r Henoed

Ein nod yw cynorthwyo’r henoed i aros yn eu cartrefi eu hunain am gymaint o amser a phosib, ac i roi cymorth i’r rhai sydd angen help llaw i fyw bywydau mor annibynol a phosib yn gyfforddus ac ag urrdas.

Mae Gofal Plas Garnedd yn brofiadol iawn wrth ofalu am yr henoed ac fe allwn ni gynnig gofal o’r radd flaenaf i chi yn eich cartref eich hunain.

Gallwn helpu gyda thasgau o ddydd i ddydd a bod yn gwmni i sgwrsio, neu yn berson y gallwch ddibynnu arno i helpu gyda gwisgo ac ymolchi-mae’r ystod o wasanaethau a gynnigir gan Gofal Plas Garnedd yn sicrhau y gallwn bob amser helpu, beth bynnag fo’r broblem.

Yn wyneb salwch neu ansymudoldeb, gall fod yn anodd ymgymryd â gweithgareddau bob dydd a oedd efallai’n hawdd i chi ar un adeg. Mae ein gwasanaeth gofal personol diffwdan wedi’i gynllunio i’ch cefnogi gyda’ch bywyd bob dydd, yn ogystal â rhoi’r anogaeth a’r gefnogaeth emosiynol y gallai fod arnoch eu hangen er mwyn parhau i fyw yn annibynnol.

Gall ein gwasanaeth gofal personol eich cynorthwyo i fynd i mewn ac allan o’ch gwely, gwisgo, cymryd meddyginiaeth, ymolchi a gofal ymataliaeth, ar adeg sy’n gyfleus i chi. Mae cynnal eich urddas yn hollbwysig i ni, a dyna pam y bydd ein Gofalwyr yn sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus bob amser.

Ymolchi

Gall eich Gofalwr eich cefnogi’n llawn gyda’ch gofynion ymolchi. Gallant eich cynorthwyo i fynd i mewn ac allan o’r bath neu’r gawod yn ddiogel, yn ogystal â golchi a sychu eich gwallt a’ch corff, os oes angen. Os ydych yn gallu ymolchi yn annibynnol, gallant eistedd gyda chi a chynnig cefnogaeth pan fo angen; gan roi tawelwch meddwl i chi fod rhywun wrth law i sicrhau eich diogelwch.

Gwisgo

Mae cau botymau, sipiau a chareiau yn brosesau syml i’r rhan fwyaf, ond gallant fod yn dasgau amhosibl i lawer. Os oes angen cymorth arnoch i wisgo a dadwisgo, gallwch ddibynnu ar gefnogaeth ein Gofalwyr i wneud pethau’n haws i chi.

Mynd i’r Gwely a Chodi

Gall ein Gofalwyr eich cynorthwyo i fynd i mewn ac allan o’r gwely, ar adegau sy’n gyfleus i chi. Gallwn hefyd ddarparu cymorth gyda theclyn codi, fel bo angen.

Ymataliaeth

Gallwn gefnogi eich ymataliaeth wrinol ac ysgarthol tra’n cynnal eich urddas bob amser. Gall eich Gofalwr eich helpu i fynd i ac o’r toiled a, phan fo angen, monitro eich hylendid personol er mwyn sicrhau eich iechyd a’ch cysur. Gall hyn gynnwys newid bagiau stoma a chathetr, padiau ymataliaeth a dillad gwely, a helpu gydag ymolchi a newid dillad.

Amser Bwyd

Fel rhan o’n gwasanaeth gofal personol, gall ein Gofalwyr eich cefnogi gyda phob agwedd ar amser bwyd. Gall hyn gynnwys eich cynorthwyo gyda’ch siopa wythnosol, helpu i baratoi prydau, a chadw trefn ar y bwyd yn eich cartref.

Gwaith Tŷ

Gall ein Gofalwyr eich cynorthwyo gyda dyletswyddau tŷ ysgafn fel rhan o’ch gwasanaeth gofal personol a byddant yn helpu gyda thasgau fel golchi dillad, hwfro a golchi llestri. Os ydych yn medru cyflawni’r tasgau yma eich hun, er mwyn cynnal eich annibyniaeth, gall ein Gofalwyr fod wrth law i gynnig cefnogaeth pan fo angen yn unig.

Cymorth gyda Meddyginiaeth

Weithiau, fe allech anghofio cymryd eich meddyginiaeth prescipsiwn, neu gael trafferth ei gymryd yn y ffordd gywir, a allai fod yn beryglus iawn i’ch iechyd. Gall ein Gofalwyr liniaru’r pryder yma trwy eich atgoffa i gymryd eich meddyginiaeth a sicrhau eich bod yn cymryd y dôs cywir, ar yr adeg iawn.

Os nad ydych yn cael trafferth cofio cymryd eich meddyginiaeth, ond yn methu ei gymryd yn gorfforol oherwydd eich cyflwr, fe allai ein Gofalwr eich helpu i gymryd eich meddyginiaeth, cyn belled ag y bod yna brescripsiwn eglur i’w ddilyn.