Rheolaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd

Rydym yn awyddus i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned rydym yn byw ynddi, gan feithrin gwerthoedd cynaladwy i’r trigolion rydym yn gofalu amdanyn nhw a’r ardaloedd ble maen nhw’n byw. Mae Plas Garnedd yn sylweddoli mor bwysig ydy’r amgylchedd a pha mor bwysig ydy gofalu am yr amgylchedd honno. Felly, rydym yn ymrywmo i sicrhau ein bod yn hybu ymarferion fydd yn sicrhau cynaladwyedd i’r amgylchedd.

Rydym wedi comisiynu’r cwmni The Carbon Footprint Company i gyfrifo faint o Nwyon Tŷ Gwydr rydym wedi eu lledaenu dros y 12 mis diwethaf. Byddwn yn ymrwymo i blannu coed mewn ardaloedd cyfagos i ble’r rydym yn darparu gofal er mwyn dadweud a gorbwyso’r effaith negyddol mae’r nwyon yma yn eu cael.

Yn ogystal â phlannu coed, byddwn yn ymrwyo i edrych yn ofalus ar ein dulliau gwaith, systemau , deunyddiau a chyflenwyr er mwyn amddiffyn ein amgylchedd mewn dull cynaliadwy a sicrhau’r gorau i’r rhai sy’n defnyddio a dibynnu ar ein gwasanaeth.

Mae Plas Garnedd yn sylweddoli fod gweithredu fel busnes cyfrifol a gwneud yr hyn sy’n iawn yn greiddiol i’n llwyddiant hir dymor. Felly rydym wedi adnabod 5 maes fydd yn sicrhau llwyddiant Plas Garnedd o fewn y sector gofal.

  1. Darparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf
  2. Sicrhau bod ein staff yn gwneud gwahaniaeth i eraill
  3. Darparu gofal mewn dull cyfrifol
  4. Chwarae rhan flaenllaw yn ein cymuned
  5. Cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd